Anweledig, 'r wy'n dy garu, Ac ni fedda' i yn y byd Wrthrych alla' i bwyso arno, Wrthrych da rhoi iddo 'mryd; 'Does fy lleinw O bob pleser ond dy hun. Ti'm harweiniast o'r creadur Ar hyd llwybrau geirwon iawn; Ni ches lonydd gyda 'mhleser Fyth na bore na phrynhawn; Yn yr anial Dwedaist eiriau wrth fy modd. 'R wyf yn fodlon i'th geryddon, Pan 'nabyddwyf mai dy lais Sy'n fy nwyn o blith y llewod, O bob gormes, o bob trais; Gwell ni diliau Yw deniadau geiriau'r nef. 'Chlywodd clust, ni welodd llygad, Ac ni ddaeth i galon dyn Erioed feddwl na dychymyg Y fath ydwyt ti dy hun; Rhagor decach Wyt nag welodd nef na llawr. Ac 'r wyf finnau yn dy garu Uwch a welais eto erioed, Uwch a glywais sôn amdano, Neu ynteu a ddychmygais fod; Dyma fflamau Perffaith, mwyn trigannau'r nef.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Llawen ydwyf fod dy hanfod Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd |
Unseen, I love thee, And I have not in the world Anything which I can lean on, Anything good to which my mind may turn; Nothing fills me With every pleasure but thyself. Thou didst lead me from the creature Along very rough paths; I did not have peace with my pleasure Never morning nor afternoon; In the desert Thou didst speak words to please me. I am willing for thy rebukes, When I recognize that it is thy voice Which is leading me from among the lions From every tyranny, from every assault; Better than honeycombs Are the attractions of heavens words. No ear heard, nor any eye saw Nor came it to man's heart Never to have thought nor imagined What thou art thyself; Far fairer Art thou than heaven or earth saw. And as for me I am in thy love Higher than I ever saw already, Higher than anything I heard of, Or that which I imagined to be; Here are flames Perfect, gentle residences of heaven.tr. 2008 Richard B Gillion |
|